SL(6)584 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2025
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy'n darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy system dalebau o ran y costau yr eir iddynt gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 a’r Atodlenni i’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlenni 1, 2 a 3 i’r Rheoliadau Optegol i newid gwerth talebau a ddyroddir mewn cysylltiad â chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â thalebau a ddyroddir neu a gwblheir ond sydd heb eu defnyddio na’u derbyn cyn 21 Hydref 2024.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(iv) – ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn.
Mae’r Memorandwm Esboniadol yn darparu’r wybodaeth a ganlyn ar dudalen 2, o dan y pennawd ‘Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad’:
“Bydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith ôl-weithredol yn ôl i 21 Hydref 2024 er mwyn sicrhau bod y cynnydd yng ngwerth y talebau yn cael effaith o’r dyddiad hwnnw fel y cytunwyd yn ystod y negodiadau teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru. Amseru’r negodiadau blynyddol sy’n ystyried canlyniad y Bwrdd Cydnabyddiaeth Ariannol Meddygon a Deintyddion yw’r rheswm pam mae’n ofynnol i’r Rheoliadau hyn gael effaith ôl-weithredol, gan ddarparu dull teg ar draws yr holl gontractwyr gofal sylfaenol.”
Er bod y Memorandwm Esboniadol yn egluro goblygiadau ymarferol yr effaith ôl-weithredol hon, nodir nad yw'n ymddangos bod y darpariaethau galluogi a enwir yn rhoi awdurdod penodol i'r Rheoliadau gael effaith ôl-weithredol.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
25 Chwefror 2025